
Club members together after a successful litter pick
ARWYR Y ‘SBWRIEL
Yn dilyn ymlaen o dderbyn Achrediad mewn Cynaliadwyedd eleni, aeth Clwb Moduro
Llanbedr PS a’r Cylch, mewn cydweithrediad â chwmni Ailgylchu LAS, ati yn
ddiweddar i ymrafael â swbriel ar ochr y ffordd.
Yn syth ar ôl Rali Bro Caron bob blwyddyn mae’r aelodau yn teithio ar hyd ffordd y
Rali i checio bod popeth yn iawn ac i godi unrhyw sbwriel gweladwy ar ochr yr hewl.
Yn ychwanegol i hyn eleni, fel arwydd o ddiolch i’r pentrefi ar hyd llwybr y Rali, yn
ystod y mis diwethaf, penderfynnodd yr aelodau i ail-ymweld â’r holl bentrefi, gan
gynnal sesiynnau casglu sbwriel.
Ymwelwyd â phentrefi Cwmann, Parcyrhos, Pentrefelin, Ffarmers, Pumsaint,
Llansawel, Abergorlech, Salem, Brechfa, Llanfynnydd, Capel Isaac a thref Llanbed ei
hun.
Aethpwyd â’r holl sachau o sbwriel a gasglwyd i ganolfan LAS yn Llanbed, lle bydd y
cyfan yn cael ei ailgylchu’n briodol.
Diolch i Tina LAS ac i holl aelodau’r clwb a roddodd o’u hamser i helpu yn y
gymuned.
Gobeithiwn, fel clwb, y bydd hyn yn cael ei weld fel gweithred gadarnhaol gan y
cymunedau, gan ein bod bob amser yn gwerthfawrogi’n fawr pob cydweithrediad ar
gyfer ein digwyddiadau.